Y Salmau 119:9-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Pa fodd y glanha llanc ei lwybr? wrth ymgadw yn ôl dy air di.

10. A'm holl galon y'th geisiais: na ad i mi gyfeiliorni oddi wrth dy orchmynion.

11. Cuddiais dy ymadroddion yn fy nghalon, fel na phechwn i'th erbyn.

12. Ti, Arglwydd, wyt fendigedig: dysg i mi dy ddeddfau.

13. A'm gwefusau y traethais holl farnedigaethau dy enau.

14. Bu mor llawen gennyf ffordd dy dystiolaethau, â'r holl olud.

15. Yn dy orchmynion y myfyriaf, ac ar dy lwybrau yr edrychaf.

16. Yn dy ddeddfau yr ymddigrifaf: nid anghofiaf dy air.

17. Bydd dda wrth dy was, fel y byddwyf byw, ac y cadwyf dy air.

18. Datguddia fy llygaid, fel y gwelwyf bethau rhyfedd allan o'th gyfraith di.

19. Dieithr ydwyf fi ar y ddaear: na chudd di rhagof dy orchmynion.

20. Drylliwyd fy enaid gan awydd i'th farnedigaethau bob amser.

21. Ceryddaist y beilchion melltigedig, y rhai a gyfeiliornant oddi wrth dy orchmynion.

22. Tro oddi wrthyf gywilydd a dirmyg: oblegid dy dystiolaethau di a gedwais.

Y Salmau 119