Y Salmau 119:74-80 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

74. Y rhai a'th ofnant a'm gwelant, ac a lawenychant; oblegid gobeithio ohonof yn dy air di.

75. Gwn, Arglwydd, mai cyfiawn yw dy farnedigaethau; ac mai mewn ffyddlondeb y'm cystuddiaist.

76. Bydded, atolwg, dy drugaredd i'm cysuro, yn ôl dy air i'th wasanaethwr.

77. Deued i mi dy drugareddau, fel y byddwyf byw; oherwydd dy gyfraith yw fy nigrifwch.

78. Cywilyddier y beilchion, canys gwnânt gam â mi yn ddiachos: ond myfi a fyfyriaf yn dy orchmynion di.

79. Troer ataf fi y rhai a'th ofnant di, a'r rhai a adwaenant dy dystiolaethau.

80. Bydded fy nghalon yn berffaith yn dy ddeddfau; fel na'm cywilyddier.

Y Salmau 119