74. Y rhai a'th ofnant a'm gwelant, ac a lawenychant; oblegid gobeithio ohonof yn dy air di.
75. Gwn, Arglwydd, mai cyfiawn yw dy farnedigaethau; ac mai mewn ffyddlondeb y'm cystuddiaist.
76. Bydded, atolwg, dy drugaredd i'm cysuro, yn ôl dy air i'th wasanaethwr.
77. Deued i mi dy drugareddau, fel y byddwyf byw; oherwydd dy gyfraith yw fy nigrifwch.