Y Salmau 119:65-69 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

65. Gwnaethost yn dda â'th was, O Arglwydd, yn ôl dy air.

66. Dysg i mi iawn ddeall a gwybodaeth: oherwydd dy orchmynion di a gredais.

67. Cyn fy nghystuddio yr oeddwn yn cyfeiliorni: ond yn awr cedwais dy air di.

68. Da ydwyt, a daionus: dysg i mi dy ddeddfau.

69. Y beilchion a glytiasant gelwydd i'm herbyn; minnau a gadwaf dy orchmynion â'm holl galon.

Y Salmau 119