47. Ac ymddigrifaf yn dy orchmynion, y rhai a hoffais.
48. A'm dwylo a ddyrchafaf at dy orchmynion, y rhai a gerais; a mi a fyfyriaf yn dy ddeddfau.
49. Cofia y gair wrth dy was, yn yr hwn y peraist i mi obeithio.
50. Dyma fy nghysur yn fy nghystudd: canys dy air di a'm bywhaodd i.
51. Y beilchion a'm gwatwarasant yn ddirfawr: er hynny ni throais oddi wrth dy gyfraith di.
52. Cofiais, O Arglwydd, dy farnedigaethau erioed; ac ymgysurais.
53. Dychryn a ddaeth arnaf, oblegid yr annuwiolion, y rhai sydd yn gadu dy gyfraith di.
54. Dy ddeddfau oedd fy nghân yn nhŷ fy mhererindod.
55. Cofiais dy enw, Arglwydd, y nos; a chedwais dy gyfraith.
56. Hyn oedd gennyf, am gadw ohonof dy orchmynion di.
57. O Arglwydd, fy rhan ydwyt; dywedais y cadwn dy eiriau.
58. Ymbiliais â'th wyneb â'm holl galon: trugarha wrthyf yn ôl dy air.
59. Meddyliais am fy ffyrdd, a throais fy nhraed at dy dystiolaethau di.
60. Brysiais, ac nid oedais gadw dy orchmynion.
61. Minteioedd yr annuwiolion a'm hysbeiliasant: ond nid anghofiais dy gyfraith di.
62. Hanner nos y cyfodaf i'th foliannu, am farnedigaethau dy gyfiawnder.
63. Cyfaill ydwyf fi i'r rhai oll a'th ofnant, ac i'r rhai a gadwant dy orchmynion.
64. Llawn yw y ddaear o'th drugaredd, O Arglwydd: dysg i mi dy ddeddfau.