Y Salmau 119:15-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Yn dy orchmynion y myfyriaf, ac ar dy lwybrau yr edrychaf.

16. Yn dy ddeddfau yr ymddigrifaf: nid anghofiaf dy air.

17. Bydd dda wrth dy was, fel y byddwyf byw, ac y cadwyf dy air.

18. Datguddia fy llygaid, fel y gwelwyf bethau rhyfedd allan o'th gyfraith di.

19. Dieithr ydwyf fi ar y ddaear: na chudd di rhagof dy orchmynion.

20. Drylliwyd fy enaid gan awydd i'th farnedigaethau bob amser.

Y Salmau 119