141. Bychan ydwyf fi, a dirmygus: ond nid anghofiais dy orchmynion.
142. Dy gyfiawnder sydd gyfiawnder byth, a'th gyfraith sydd wirionedd.
143. Adfyd a chystudd a'm goddiweddasant; a'th orchmynion oedd fy nigrifwch.
144. Cyfiawnder dy dystiolaethau a bery yn dragywydd: gwna i mi ddeall, a byw fyddaf.
145. Llefais รข'm holl galon; clyw fi, O Arglwydd: dy ddeddfau a gadwaf.
146. Llefais arnat; achub fi, a chadwaf dy dystiolaethau.
147. Achubais flaen y cyfddydd, a gwaeddais; wrth dy air y disgwyliais.
148. Fy llygaid a achubasant flaen gwyliadwriaethau y nos, i fyfyrio yn dy air di.