Y Salmau 119:126-131 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

126. Amser yw i'r Arglwydd weithio: diddymasant dy gyfraith di.

127. Am hynny yr hoffais dy orchmynion yn fwy nag aur; ie, yn fwy nag aur coeth.

128. Am hynny uniawn y cyfrifais dy orchmynion am bob peth; a chaseais bob gau lwybr.

129. Rhyfedd yw dy dystiolaethau: am hynny y ceidw fy enaid hwynt.

130. Agoriad dy eiriau a rydd oleuni: pair ddeall i rai annichellgar.

131. Agorais fy ngenau, a dyheais: oblegid awyddus oeddwn i'th orchmynion di.

Y Salmau 119