Y Salmau 119:121-125 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

121. Gwneuthum farn a chyfiawnder: na ad fi i'm gorthrymwyr.

122. Mechnïa dros dy was er daioni: na ad i'r beilchion fy ngorthrymu.

123. Fy llygaid a ballasant am dy iachawdwriaeth, ac am ymadrodd dy gyfiawnder.

124. Gwna i'th was yn ôl dy drugaredd, a dysg i mi dy ddeddfau.

125. Dy was ydwyf fi; pâr i mi ddeall, fel y gwypwyf dy dystiolaethau.

Y Salmau 119