Y Salmau 119:114-119 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

114. Fy lloches a'm tarian ydwyt: yn dy air y gobeithiaf.

115. Ciliwch oddi wrthyf, rai drygionus: canys cadwaf orchmynion fy Nuw.

116. Cynnal fi yn ôl dy air, fel y byddwyf byw: ac na ad i mi gywilyddio am fy ngobaith.

117. Cynnal fi, a dihangol fyddaf: ac ar dy ddeddfau yr edrychaf yn wastadol.

118. Sethraist y rhai oll a gyfeiliornant oddi wrth dy ddeddfau: canys twyllodrus yw eu dichell hwynt.

119. Bwriaist heibio holl annuwiolion y tir fel sothach: am hynny yr hoffais dy dystiolaethau.

Y Salmau 119