Y Salmau 119:112-131 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

112. Gostyngais fy nghalon i wneuthur dy ddeddfau byth, hyd y diwedd.

113. Meddyliau ofer a gaseais: a'th gyfraith di a hoffais.

114. Fy lloches a'm tarian ydwyt: yn dy air y gobeithiaf.

115. Ciliwch oddi wrthyf, rai drygionus: canys cadwaf orchmynion fy Nuw.

116. Cynnal fi yn ôl dy air, fel y byddwyf byw: ac na ad i mi gywilyddio am fy ngobaith.

117. Cynnal fi, a dihangol fyddaf: ac ar dy ddeddfau yr edrychaf yn wastadol.

118. Sethraist y rhai oll a gyfeiliornant oddi wrth dy ddeddfau: canys twyllodrus yw eu dichell hwynt.

119. Bwriaist heibio holl annuwiolion y tir fel sothach: am hynny yr hoffais dy dystiolaethau.

120. Dychrynodd fy nghnawd rhag dy ofn, ac ofnais rhag dy farnedigaethau.

121. Gwneuthum farn a chyfiawnder: na ad fi i'm gorthrymwyr.

122. Mechnïa dros dy was er daioni: na ad i'r beilchion fy ngorthrymu.

123. Fy llygaid a ballasant am dy iachawdwriaeth, ac am ymadrodd dy gyfiawnder.

124. Gwna i'th was yn ôl dy drugaredd, a dysg i mi dy ddeddfau.

125. Dy was ydwyf fi; pâr i mi ddeall, fel y gwypwyf dy dystiolaethau.

126. Amser yw i'r Arglwydd weithio: diddymasant dy gyfraith di.

127. Am hynny yr hoffais dy orchmynion yn fwy nag aur; ie, yn fwy nag aur coeth.

128. Am hynny uniawn y cyfrifais dy orchmynion am bob peth; a chaseais bob gau lwybr.

129. Rhyfedd yw dy dystiolaethau: am hynny y ceidw fy enaid hwynt.

130. Agoriad dy eiriau a rydd oleuni: pair ddeall i rai annichellgar.

131. Agorais fy ngenau, a dyheais: oblegid awyddus oeddwn i'th orchmynion di.

Y Salmau 119