Y Salmau 119:104-109 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

104. Trwy dy orchmynion di y pwyllais: am hynny y caseais bob gau lwybr.

105. Llusern yw dy air i'm traed, a llewyrch i'm llwybr.

106. Tyngais, a chyflawnaf, y cadwn farnedigaethau dy gyfiawnder.

107. Cystuddiwyd fi yn ddirfawr: bywha fi, O Arglwydd, yn ôl dy air.

108. Atolwg, Arglwydd, bydd fodlon i ewyllysgar offrymau fy ngenau, a dysg i mi dy farnedigaethau.

109. Y mae fy enaid yn fy llaw yn wastadol: er hynny nid wyf yn anghofio dy gyfraith.

Y Salmau 119