27. Duw yw yr Arglwydd, yr hwn a lewyrchodd i ni: rhwymwch yr aberth â rhaffau, hyd wrth gyrn yr allor.
28. Fy Nuw ydwyt ti, a mi a'th glodforaf: dyrchafaf di, fy Nuw.
29. Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw: oherwydd yn dragywydd y pery ei drugaredd ef.