Y Salmau 118:20-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

20. Dyma borth yr Arglwydd; y rhai cyfiawn a ânt i mewn iddo.

21. Clodforaf di; oherwydd i ti fy ngwrando, a'th fod yn iachawdwriaeth i mi.

22. Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, a aeth yn ben i'r gongl.

23. O'r Arglwydd y daeth hyn; hyn oedd ryfedd yn ein golwg ni.

24. Dyma y dydd a wnaeth yr Arglwydd; gorfoleddwn a llawenychwn ynddo.

25. Atolwg, Arglwydd, achub yn awr: atolwg, Arglwydd pâr yn awr lwyddiant.

26. Bendigedig yw a ddêl yn enw yr Arglwydd: bendithiasom chwi o dŷ yr Arglwydd.

Y Salmau 118