Y Salmau 115:1-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Nid i ni, O Arglwydd, nid i ni, ond i'th enw dy hun dod ogoniant, er mwyn dy drugaredd, ac er mwyn dy wirionedd.

2. Paham y dywedai y cenhedloedd, Pa le yn awr y mae eu Duw hwynt?

3. Ond ein Duw ni sydd yn y nefoedd: efe a wnaeth yr hyn a fynnodd oll.

4. Eu delwau hwy ydynt o aur ac arian, gwaith dwylo dynion.

5. Genau sydd iddynt, ond ni lefarant; llygaid sydd ganddynt, ond ni welant:

6. Y mae clustiau iddynt, ond ni chlywant; ffroenau sydd ganddynt, ond ni aroglant:

Y Salmau 115