Y Salmau 109:15-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Byddant bob amser gerbron yr Arglwydd, fel y torro efe ymaith eu coffadwriaeth o'r tir:

16. Am na chofiodd wneuthur trugaredd, eithr erlid ohono y truan a'r tlawd, a'r cystuddiedig o galon, i'w ladd.

17. Hoffodd felltith, a hi a ddaeth iddo: ni fynnai fendith, a hi a bellhaodd oddi wrtho.

18. Ie, gwisgodd felltith fel dilledyn; a hi a ddaeth fel dwfr i'w fewn, ac fel olew i'w esgyrn.

Y Salmau 109