Y Salmau 107:8-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni, a'i ryfeddodau i feibion dynion!

9. Canys efe a ddiwalla yr enaid sychedig, ac a leinw yr enaid newynog รข daioni.

10. Y rhai a breswyliant yn y tywyllwch a chysgod angau, yn rhwym mewn cystudd a haearn:

11. Oherwydd anufuddhau ohonynt eiriau Duw, a dirmygu cyngor y Goruchaf.

Y Salmau 107