Y Salmau 107:35-39 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

35. Efe a dry yr anialwch yn llyn dwfr, a'r tir cras yn ffynhonnau dwfr.

36. Ac yno y gwna i'r newynog aros; fel y darparont ddinas i gyfanheddu:

37. Ac yr heuont feysydd, ac y plannont winllannoedd, y rhai a ddygant ffrwyth toreithiog.

38. Ac efe a'u bendithia hwynt fel yr amlhânt yn ddirfawr, ac ni ad i'w hanifeiliaid leihau.

39. Lleiheir hwynt hefyd, a gostyngir hwynt, gan gyfyngder, drygfyd, a chyni.

Y Salmau 107