11. Oherwydd anufuddhau ohonynt eiriau Duw, a dirmygu cyngor y Goruchaf.
12. Am hynny yntau a ostyngodd eu calon รข blinder: syrthiasant, ac nid oedd cynorthwywr.
13. Yna y gwaeddasant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder; ac efe a'u hachubodd o'u gorthrymderau.
14. Dug hwynt allan o dywyllwch a chysgod angau; a drylliodd eu rhwymau hwynt.
15. O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni, a'i ryfeddodau i feibion dynion!
16. Canys efe a dorrodd y pyrth pres, ac a ddrylliodd y barrau heyrn.
17. Ynfydion, oblegid eu camweddau, ac oherwydd eu hanwireddau, a gystuddir.
18. Eu henaid a ffieiddiai bob bwyd; a daethant hyd byrth angau.
19. Yna y gwaeddasant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder; ac efe a'u hachubodd o'u gorthrymderau.