9. Yr hyn a amododd efe ag Abraham, a'i lw i Isaac;
10. A'r hyn a osododd efe yn ddeddf i Jacob, ac yn gyfamod tragwyddol i Israel;
11. Gan ddywedyd, I ti y rhoddaf dir Canaan, rhandir eich etifeddiaeth.
12. Pan oeddynt ychydig o rifedi, ie, ychydig, a dieithriaid ynddi:
13. Pan rodient o genhedlaeth i genhedlaeth, o'r naill deyrnas at bobl arall:
14. Ni adawodd i neb eu gorthrymu; ie, ceryddodd frenhinoedd o'u plegid;
15. Gan ddywedyd, Na chyffyrddwch รข'm rhai eneiniog, ac na ddrygwch fy mhroffwydi.
16. Galwodd hefyd am newyn ar y tir; a dinistriodd holl gynhaliaeth bara.