Y Salmau 105:5-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Cofiwch ei ryfeddodau y rhai a wnaeth efe; ei wyrthiau, a barnedigaethau ei enau;

6. Chwi had Abraham ei was ef, chwi feibion Jacob ei etholedigion.

7. Efe yw yr Arglwydd ein Duw ni: ei farnedigaethau ef sydd trwy yr holl ddaear.

8. Cofiodd ei gyfamod byth, y gair a orchmynnodd efe i fil o genedlaethau:

9. Yr hyn a amododd efe ag Abraham, a'i lw i Isaac;

10. A'r hyn a osododd efe yn ddeddf i Jacob, ac yn gyfamod tragwyddol i Israel;

Y Salmau 105