Y Salmau 105:30-35 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

30. Eu tir a heigiodd lyffaint yn ystafelloedd eu brenhinoedd.

31. Efe a ddywedodd, a daeth cymysgbla, a llau yn eu holl fro hwynt.

32. Efe a wnaeth eu glaw hwynt yn genllysg, ac yn fflamau tân yn eu tir.

33. Trawodd hefyd eu gwinwydd, a'u ffigyswydd; ac a ddrylliodd goed eu gwlad hwynt.

34. Efe a ddywedodd, a daeth y locustiaid, a'r lindys, yn aneirif;

35. Y rhai a fwytasant yr holl laswellt yn eu tir hwynt, ac a ddifasant ffrwyth eu daear hwynt.

Y Salmau 105