Y Salmau 103:11-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. Canys cyfuwch ag yw y nefoedd uwchlaw y ddaear, y rhagorodd ei drugaredd ef ar y rhai a'i hofnant ef.

12. Cyn belled ag yw y dwyrain oddi wrth y gorllewin, y pellhaodd efe ein camweddau oddi wrthym.

13. Fel y tosturia tad wrth ei blant, felly y tosturia yr Arglwydd wrth y rhai a'i hofnant ef.

14. Canys efe a edwyn ein defnydd ni: cofia mai llwch ydym.

15. Dyddiau dyn sydd fel glaswelltyn: megis blodeuyn y maes, felly y blodeua efe.

16. Canys y gwynt a รข drosto, ac ni bydd mwy ohono; a'i le nid edwyn ddim ohono ef mwy.

17. Ond trugaredd yr Arglwydd sydd o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb, ar y rhai a'i hofnant ef; a'i gyfiawnder i blant eu plant;

Y Salmau 103