Y Salmau 101:4-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Calon gyndyn a gilia oddi wrthyf: nid adnabyddaf ddyn drygionus.

5. Torraf ymaith yr hwn a enllibio ei gymydog yn ddirgel: yr uchel o olwg, a'r balch ei galon, ni allaf ei ddioddef.

6. Fy llygaid fydd ar ffyddloniaid y tir, fel y trigont gyda mi: yr hwn a rodio mewn ffordd berffaith, hwnnw a'm gwasanaetha i.

7. Ni thrig o fewn fy nhÅ· yr un a wnelo dwyll: ni thrig yn fy ngolwg yr un a ddywedo gelwydd.

8. Yn fore y torraf ymaith holl annuwiolion y tir, i ddiwreiddio holl weithredwyr anwiredd o ddinas yr Arglwydd.

Y Salmau 101