Y Pregethwr 4:7-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Yna mi a droais, ac a welais wagedd dan yr haul.

8. Y mae un yn unig, ac heb ail; ie, nid oes iddo na mab na brawd; ac eto nid oes diwedd ar ei lafur oll: ie, ni chaiff ei lygaid ddigon o gyfoeth; ni ddywed efe, I bwy yr ydwyf yn llafurio, ac yn difuddio fy enaid oddi wrth hyfrydwch? Hyn hefyd sydd wagedd, a dyma drafferth flin.

9. Gwell yw dau nag un, o achos bod iddynt wobr da am eu llafur.

10. Canys os syrthiant, y naill a gyfyd y llall: ond gwae yr unig; canys pan syrthio efe, nid oes ail i'w gyfodi.

11. Hefyd os dau a gydorweddant, hwy a ymgynhesant; ond yr unig, pa fodd y cynhesa efe?

12. Ac os cryfach fydd un nag ef, dau a'i gwrthwynebant yntau; a rhaff deircainc ni thorrir ar frys.

13. Gwell yw bachgen tlawd a doeth, na brenin hen ac ynfyd, yr hwn ni fedr gymryd rhybudd mwyach:

Y Pregethwr 4