Y Pregethwr 3:12-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Mi a wn nad oes dim da ynddynt, ond bod i ddyn fod yn llawen, a gwneuthur daioni yn ei fywyd.

13. A bod i bob dyn fwyta ac yfed, a mwynhau daioni o'i holl lafur; rhodd Duw yw hynny.

14. Mi a wn beth bynnag a wnĂȘl Duw, y bydd hynny byth; ni ellir na bwrw ato, na thynnu dim oddi wrtho: ac y mae Duw yn gwneuthur hyn, fel yr ofnai dynion ger ei fron ef.

15. Y peth a fu o'r blaen sydd yr awr hon; a'r peth sydd ar ddyfod a fu o'r blaen: Duw ei hun a ofyn y peth a aeth heibio.

16. Hefyd mi a welais dan yr haul le barn, yno yr oedd annuwioldeb; a lle cyfiawnder, yno yr oedd anwiredd.

17. Mi a ddywedais yn fy nghalon, Duw a farn y cyfiawn a'r anghyfiawn: canys y mae amser i bob amcan, ac i bob gwaith yno.

18. Mi a ddywedais yn fy nghalon am gyflwr meibion dynion; fel y byddai i Dduw eu hamlygu hwynt, ac y gwelent hwythau mai anifeiliaid ydynt.

Y Pregethwr 3