Y Pregethwr 2:17-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. Am hynny cas gennyf einioes, canys blin gennyf y gorchwyl a wneir dan haul; canys gwagedd a gorthrymder ysbryd yw y cwbl.

18. Ie, cas gennyf fy holl lafur yr ydwyf fi yn ei gymryd dan haul; am fod yn rhaid i mi ei adael i'r neb a fydd ar fy ôl i.

19. A phwy a ŵyr ai doeth ai annoeth fydd efe? eto efe a fydd feistr ar fy holl lafur yr hwn a gymerais, ac yn yr hwn y bûm ddoeth dan haul. Dyma wagedd hefyd.

Y Pregethwr 2