Y Pregethwr 12:6-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Cyn torri y llinyn arian, a chyn torri y cawg aur, a chyn torri y piser gerllaw y ffynnon, neu dorri yr olwyn wrth y pydew.

7. Yna y dychwel y pridd i'r ddaear fel y bu, ac y dychwel yr ysbryd at Dduw, yr hwn a'i rhoes ef.

8. Gwagedd o wagedd, medd y Pregethwr; gwagedd yw y cwbl.

9. A hefyd, am fod y Pregethwr yn ddoeth, efe a ddysgodd eto wybodaeth i'r bobl; ie, efe a ystyriodd, ac a chwiliodd allan, ac a drefnodd ddiarhebion lawer.

10. Chwiliodd y Pregethwr am eiriau cymeradwy; a'r hyn oedd ysgrifenedig oedd uniawn, sef geiriau gwirionedd.

Y Pregethwr 12