Y Pregethwr 10:11-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. Os brath sarff heb swyno, nid gwell yw dyn siaradus.

12. Geiriau genau y doeth sydd rasol: ond gwefusau y ffôl a'i difetha ef ei hun.

13. Ffolineb yw dechreuad geiriau ei enau ef: a diweddiad geiriau ei enau sydd anfad ynfydrwydd.

14. Y ffôl hefyd sydd aml ei eiriau: ni ŵyr neb beth a fydd; a phwy a fynega iddo pa beth fydd ar ei ôl ef?

15. Llafur y ffyliaid a flina bawb ohonynt: canys ni fedr efe fyned i'r ddinas.

16. Gwae di y wlad sydd â bachgen yn frenin i ti, a'th dywysogion yn bwyta yn fore.

17. Gwyn dy fyd di y wlad sydd â'th frenin yn fab i bendefigion, a'th dywysogion yn bwyta eu bwyd yn eu hamser, er cryfder, ac nid er meddwdod.

Y Pregethwr 10