Seffaneia 3:19-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

19. Wele, mi a ddifethaf yr amser hwnnw bawb a'th flinant: ac a achubaf y gloff, a chasglaf y wasgaredig; ac a'u gosodaf yn glodfawr ac yn enwog yn holl dir eu gwarth.

20. Yr amser hwnnw y dygaf chwi drachefn, yr amser y'ch casglaf: canys gwnaf chwi yn enwog ac yn glodfawr ymysg holl bobl y ddaear, pan ddychwelwyf eich caethiwed o flaen eich llygaid, medd yr Arglwydd.

Seffaneia 3