Sechareia 8:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Drachefn y daeth gair Arglwydd y lluoedd ataf, gan ddywedyd,

2. Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Eiddigeddais eiddigedd mawr dros Seion ac รข llid mawr yr eiddigeddais drosti.

3. Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Dychwelais at Seion, a thrigaf yng nghanol Jerwsalem; a Jerwsalem a elwir Dinas y gwirionedd; a mynydd Arglwydd y lluoedd, Y mynydd sanctaidd.

Sechareia 8