Sechareia 3:1-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac efe a ddangosodd i mi Josua yr archoffeiriad yn sefyll gerbron angel yr Arglwydd, a Satan yn sefyll ar ei ddeheulaw ef i'w wrthwynebu ef.

2. A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Satan, Cerydded yr Arglwydd dydi, Satan; sef yr Arglwydd yr hwn a ddewisodd Jerwsalem, a'th geryddo: onid pentewyn yw hwn wedi ei achub o'r tân?

3. A Josua ydoedd wedi ei wisgo â dillad budron, ac yn sefyll yng ngŵydd yr angel.

4. Ac efe a atebodd, ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yn sefyll ger ei fron, gan ddywedyd, Cymerwch ymaith y dillad budron oddi amdano ef. Wrtho yntau y dywedodd, Wele, symudais dy anwiredd oddi wrthyt, a gwisgaf di hefyd â newid dillad.

5. A dywedais hefyd, Rhoddant feitr teg ar ei ben ef: a rhoddasant feitr teg ar ei ben ef, ac a'i gwisgasant â dillad; ac angel yr Arglwydd oedd yn sefyll gerllaw.

6. Ac angel yr Arglwydd a dystiolaethodd wrth Josua, gan ddywedyd,

Sechareia 3