Sechareia 14:11-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. Yno y trigant ynddi, ac ni bydd yn ddifrod mwyach; ond Jerwsalem a gyfanheddir yn ddienbyd.

12. A hyn fydd y pla รข'r hwn y tery yr Arglwydd yr holl bobloedd a ryfelant yn erbyn Jerwsalem; Eu cnawd a dderfydd, er eu bod yn sefyll ar eu traed, a'u llygaid a ddarfyddant yn eu tyllau, a'u tafod a dderfydd yn eu safn.

13. Y dydd hwnnw y bydd mawr derfysg oddi wrth yr Arglwydd yn eu plith hwynt; a phob un a ymafael yn llaw ei gymydog, a'i law a gyfyd yn erbyn llaw ei gymydog.

14. A Jwda hefyd a ryfela yn Jerwsalem: a chesglir golud yr holl genhedloedd o amgylch, aur ac arian, a gwisgoedd lawer iawn.

Sechareia 14