Ruth 4:10-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Ruth hefyd y Foabes, gwraig Mahlon, a brynais i mi yn wraig, i gyfodi enw y marw ar ei etifeddiaeth ef, fel na thorrer ymaith enw y marw o blith ei frodyr, nac oddi wrth borth ei fangre: tystion ydych chwi heddiw.

11. A'r holl bobl y rhai oedd yn y porth, a'r henuriaid, a ddywedasant, Yr ydym yn dystion: Yr Arglwydd a wnelo y wraig sydd yn dyfod i'th dŷ di fel Rahel, ac fel Lea, y rhai a adeiladasant ill dwy dŷ Israel; a gwna di rymustra yn Effrata, bydd enwog yn Bethlehem:

12. Bydded hefyd dy dŷ di fel tŷ Phares, yr hwn a ymddûg Tamar i Jwda, o'r had yr hwn a ddyry yr Arglwydd i ti o'r llances hon.

13. Felly Boas a gymerodd Ruth; a hi a fu iddo yn wraig: ac efe a aeth i mewn ati hi; a'r Arglwydd a roddodd iddi hi feichiogi, a hi a ymddûg fab.

Ruth 4