18. Felly gan hynny y neb y mynno y mae efe yn trugarhau wrtho, a'r neb y mynno y mae efe yn ei galedu.
19. Ti a ddywedi gan hynny wrthyf, Paham y mae efe eto yn beio? canys pwy a wrthwynebodd ei ewyllys ef?
20. Yn hytrach, O ddyn, pwy wyt ti yr hwn a ddadleui yn erbyn Duw? a ddywed y peth ffurfiedig wrth yr hwn a'i ffurfiodd, Paham y'm gwnaethost fel hyn?
21. Onid oes awdurdod i'r crochenydd ar y priddgist, i wneuthur o'r un telpyn pridd un llestr i barch, ac arall i amarch?
22. Beth os Duw, yn ewyllysio dangos ei ddigofaint, a pheri adnabod ei allu, a oddefodd trwy hirymaros lestri digofaint, wedi eu cymhwyso i golledigaeth:
23. Ac i beri gwybod golud ei ogoniant ar lestri trugaredd, y rhai a ragbaratĂ´dd efe i ogoniant,
24. Sef nyni, y rhai a alwodd efe, nid o'r Iddewon yn unig, eithr hefyd o'r Cenhedloedd?