11. Ac os Ysbryd yr hwn a gyfododd Iesu o feirw sydd yn trigo ynoch; yr hwn a gyfododd Grist o feirw a fywiocâ hefyd eich cyrff marwol chwi, trwy ei Ysbryd yr hwn sydd yn trigo ynoch.
12. Am hynny, frodyr, dyledwyr ydym, nid i'r cnawd, i fyw yn ôl y cnawd.
13. Canys os byw yr ydych yn ôl y cnawd, meirw fyddwch: eithr os ydych yn marweiddio gweithredoedd y corff trwy'r Ysbryd, byw fyddwch.
14. Canys y sawl a arweinir gan Ysbryd Duw, y rhai hyn sydd blant i Dduw.
15. Canys ni dderbyniasoch ysbryd caethiwed drachefn i beri ofn; eithr derbyniasoch Ysbryd mabwysiad, trwy'r hwn yr ydym yn llefain, Abba, Dad.
16. Y mae'r Ysbryd hwn yn cyd‐dystiolaethu â'n hysbryd ni, ein bod ni yn blant i Dduw:
17. Ac os plant, etifeddion hefyd; sef etifeddion i Dduw, a chyd‐etifeddion â Crist: os ydym yn cyd‐ddioddef gydag ef, fel y'n cydogonedder hefyd.
18. Oblegid yr ydwyf yn cyfrif, nad yw dioddefiadau yr amser presennol hwn, yn haeddu eu cyffelybu i'r gogoniant a ddatguddir i ni.
19. Canys awyddfryd y creadur sydd yn disgwyl am ddatguddiad meibion Duw.
20. Canys y creadur sydd wedi ei ddarostwng i oferedd; nid o'i fodd, eithr oblegid yr hwn a'i darostyngodd:
21. Dan obaith y rhyddheir y creadur yntau hefyd, o gaethiwed llygredigaeth, i ryddid gogoniant plant Duw.
22. Canys ni a wyddom fod pob creadur yn cydocheneidio, ac yn cydofidio hyd y pryd hwn.