Rhufeiniaid 8:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Nid oes gan hynny yn awr ddim damnedigaeth i'r rhai sydd yng Nghrist Iesu, y rhai sydd yn rhodio nid yn ôl y cnawd, eithr yn ôl yr Ysbryd.

2. Canys deddf Ysbryd y bywyd yng Nghrist Iesu a'm rhyddhaodd i oddi wrth ddeddf pechod a marwolaeth.

3. Canys yr hyn ni allai'r ddeddf, oherwydd ei bod yn wan trwy y cnawd, Duw a ddanfonodd ei Fab ei hun yng nghyffelybiaeth cnawd pechadurus, ac am bechod a gondemniodd bechod yn y cnawd:

Rhufeiniaid 8