Rhufeiniaid 7:10-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. A'r gorchymyn, yr hwn ydoedd i fywyd, hwnnw a gaed i mi i farwolaeth.

11. Canys pechod, wedi cymryd achlysur trwy'r gorchymyn, a'm twyllodd i; a thrwy hwnnw a'm lladdodd.

12. Felly yn wir y mae'r ddeddf yn sanctaidd; a'r gorchymyn yn sanctaidd, ac yn gyfiawn, ac yn dda.

13. Gan hynny a wnaethpwyd y peth oedd dda, yn farwolaeth i mi? Na ato Duw. Eithr pechod, fel yr ymddangosai yn bechod, gan weithio marwolaeth ynof fi trwy'r hyn sydd dda: fel y byddai pechod trwy'r gorchymyn yn dra phechadurus.

Rhufeiniaid 7