Rhufeiniaid 4:4-7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Eithr i'r neb sydd yn gweithio, ni chyfrifir y gwobr o ras, ond o ddyled.

5. Eithr i'r neb nid yw yn gweithio, ond yn credu yn yr hwn sydd yn cyfiawnhau yr annuwiol, ei ffydd ef a gyfrifir yn gyfiawnder.

6. Megis y mae Dafydd hefyd yn datgan dedwyddwch y dyn y mae Duw yn cyfrif cyfiawnder iddo heb weithredoedd, gan ddywedyd,

7. Dedwydd yw y rhai y maddeuwyd eu hanwireddau, a'r rhai y cuddiwyd eu pechodau:

Rhufeiniaid 4