Rhufeiniaid 15:24-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

24. Pan elwyf i'r Hispaen, myfi a ddeuaf atoch chwi: canys yr wyf yn gobeithio, wrth fyned heibio, y caf eich gweled, a'm hebrwng gennych yno, os byddaf yn gyntaf o ran wedi fy llenwi ohonoch.

25. Ac yr awr hon yr wyf fi yn myned i Jerwsalem, i weini i'r saint.

26. Canys rhyngodd bodd i'r rhai o Facedonia ac Achaia wneuthur rhyw gymorth i'r rhai tlodion o'r saint sydd yn Jerwsalem.

Rhufeiniaid 15