Rhufeiniaid 15:10-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. A thrachefn y mae yn dywedyd, Ymlawenhewch, Genhedloedd, gyda'i bobl ef.

11. A thrachefn, Molwch yr Arglwydd, yr holl Genhedloedd; a chlodforwch ef, yr holl bobloedd.

12. A thrachefn y mae Eseias yn dywedyd, Fe fydd gwreiddyn Jesse, a'r hwn a gyfyd i lywodraethu'r Cenhedloedd: ynddo ef y gobeithia'r Cenhedloedd.

13. A Duw'r gobaith a'ch cyflawno o bob llawenydd a thangnefedd gan gredu, fel y cynyddoch mewn gobaith trwy nerth yr Ysbryd Glân.

Rhufeiniaid 15