15. Eithr os o achos bwyd y tristeir dy frawd, nid wyt ti mwyach yn rhodio yn ôl cariad. Na ddistrywia ef â'th fwyd, dros yr hwn y bu Crist farw.
16. Na chabler gan hynny eich daioni chwi.
17. Canys nid yw teyrnas Dduw fwyd a diod; ond cyfiawnder, a thangnefedd, a llawenydd yn yr Ysbryd Glân.
18. Canys yr hwn sydd yn gwasanaethu Crist yn y pethau hyn, sydd hoff gan Dduw, a chymeradwy gan ddynion.
19. Felly gan hynny dilynwn y pethau a berthynant i heddwch, a'r pethau a berthynant i adeiladaeth ein gilydd.
20. O achos bwyd na ddinistria waith Duw. Pob peth yn wir sydd lân; eithr drwg yw i'r dyn sydd yn bwyta trwy dramgwydd.