Rhufeiniaid 13:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ymddarostynged pob enaid i'r awdurdodau goruchel: canys nid oes awdurdod ond oddi wrth Dduw; a'r awdurdodau y sydd, gan Dduw y maent wedi eu hordeinio.

2. Am hynny pwy bynnag sydd yn ymosod yn erbyn yr awdurdod, sydd yn gwrthwynebu ordinhad Duw: a'r rhai a wrthwynebant, a dderbyniant farnedigaeth iddynt eu hunain.

3. Canys tywysogion nid ydynt ofn i weithredoedd da, eithr i'r rhai drwg. A fynni di nad ofnech yr awdurdod? gwna'r hyn sydd dda, a thi a gei glod ganddo:

Rhufeiniaid 13