1. Am hynny meddaf, A wrthododd Duw ei bobl? Na ato Duw. Canys yr wyf finnau hefyd yn Israeliad, o had Abraham, o lwyth Benjamin.
2. Ni wrthododd Duw ei bobl, yr hwn a adnabu efe o'r blaen. Oni wyddoch chwi pa beth y mae'r ysgrythur yn ei ddywedyd am Eleias? pa fodd y mae efe yn erfyn ar Dduw yn erbyn Israel, gan ddywedyd,
3. O Arglwydd, hwy a laddasant dy broffwydi, ac a gloddiasant dy allorau i lawr; ac myfi a adawyd yn unig, ac y maent yn ceisio fy einioes innau.
4. Eithr pa beth y mae ateb Duw yn ei ddywedyd wrtho? Mi a adewais i mi fy hun saith mil o wŷr, y rhai ni phlygasant eu gliniau i Baal.
5. Felly gan hynny y pryd hwn hefyd y mae gweddill yn ôl etholedigaeth gras.
6. Ac os o ras, nid o weithredoedd mwyach: os amgen, nid yw gras yn ras mwyach. Ac os o weithredoedd, nid yw o ras mwyach: os amgen, nid yw gweithred yn weithred mwyach.
7. Beth gan hynny? Ni chafodd Israel yr hyn y mae yn ei geisio: eithr yr etholedigaeth a'i cafodd, a'r lleill a galedwyd;
8. (Megis y mae yn ysgrifenedig, Rhoddes Duw iddynt ysbryd trymgwsg, llygaid fel na welent, a chlustiau fel na chlywent;) hyd y dydd heddiw.
9. Ac y mae Dafydd yn dywedyd, Bydded eu bord hwy yn rhwyd, ac yn fagl, ac yn dramgwydd, ac yn daledigaeth iddynt:
10. Tywyller eu llygaid hwy, fel na welant, a chydgryma di eu cefnau hwy bob amser.
11. Gan hynny meddaf, A dramgwyddasant hwy fel y cwympent? Na ato Duw: eithr trwy eu cwymp hwy y daeth iachawdwriaeth i'r Cenhedloedd, i yrru eiddigedd arnynt.
12. Oherwydd paham, os ydyw eu cwymp hwy yn olud i'r byd, a'u lleihad hwy yn olud i'r Cenhedloedd; pa faint mwy y bydd eu cyflawnder hwy?
13. Canys wrthych chwi y Cenhedloedd yr wyf yn dywedyd, yn gymaint â'm bod i yn apostol y Cenhedloedd, yr wyf yn mawrhau fy swydd;
14. Os gallaf ryw fodd yrru eiddigedd ar fy nghig a'm gwaed fy hun, ac achub rhai ohonynt.