Philipiaid 2:20-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

20. Canys nid oes gennyf neb o gyffelyb feddwl, yr hwn a wir ofala am y pethau a berthyn i chwi.

21. Canys pawb sydd yn ceisio'r eiddynt eu hunain, nid yr eiddo Crist Iesu.

22. Eithr y prawf ohono ef chwi a'i gwyddoch, mai fel plentyn gyda thad, y gwasanaethodd efe gyda myfi yn yr efengyl.

23. Hwn gan hynny yr ydwyf yn gobeithio ei ddanfon, cyn gynted ag y gwelwyf yr hyn a fydd i mi.

Philipiaid 2