13. Canys Duw yw'r hwn sydd yn gweithio ynoch ewyllysio a gweithredu o'i ewyllys da ef.
14. Gwnewch bob dim heb rwgnach ac ymddadlau;
15. Fel y byddoch ddiargyhoedd a diniwed, yn blant difeius i Dduw, yng nghanol cenhedlaeth ddrygionus a throfaus, ymhlith y rhai yr ydych yn disgleirio megis goleuadau yn y byd;
16. Yn cynnal gair y bywyd; er gorfoledd i mi yn nydd Crist, na redais yn ofer, ac na chymerais boen yn ofer.
17. Ie, a phe'm hoffrymid ar aberth a gwasanaeth eich ffydd, llawenhau yr wyf, a chydlawenhau รข chwi oll.