2. Wele, mi a'th wneuthum yn fychan ymysg y cenhedloedd; dibris iawn wyt.
3. Balchder dy galon a'th dwyllodd: ti yr hwn wyt yn trigo yn holltau y graig, yn uchel ei drigfa; yr hwn a ddywed yn ei galon, Pwy a'm tyn i'r llawr?
4. Ped ymddyrchefit megis yr eryr, a phe rhoit dy nyth ymhlith y sêr, mi a'th ddisgynnwn oddi yno, medd yr Arglwydd.
5. Pe delai lladron atat, neu ysbeilwyr nos, (pa fodd y'th dorrwyd ymaith!) oni ladratasent hwy eu digon? pe delsai cynullwyr grawnwin atat, oni weddillasent rawn?
6. Pa fodd y chwiliwyd Esau, ac y ceisiwyd ei guddfeydd ef!
7. Yr holl wŷr y rhai yr oedd cyfamod rhyngot a hwynt, a'th yrasant hyd y terfyn; y gwŷr yr oedd heddwch rhyngot a hwynt, a'th dwyllasant, ac a'th orfuant, bwytawyr dy fara a roddasant archoll danat: nid oes deall ynddo.
8. Oni ddinistriaf y dydd hwnnw, medd yr Arglwydd, y doethion allan o Edom, a'r deall allan o fynydd Esau?
9. Dy gedyrn di, Teman, a ofnant; fel y torrer ymaith bob un o fynydd Esau trwy laddfa.
10. Am dy draha yn erbyn dy frawd Jacob, gwarth a'th orchuddia, a thi a dorrir ymaith byth.
11. Y dydd y sefaist o'r tu arall, y dydd y caethgludodd estroniaid ei olud ef, a myned o ddieithriaid i'w byrth ef, a bwrw coelbrennau ar Jerwsalem, tithau hefyd oeddit megis un ohonynt.
12. Ond ni ddylesit ti edrych ar ddydd dy frawd, y dydd y dieithriwyd ef; ac ni ddylesit lawenychu o achos plant Jwda, y dydd y difethwyd hwynt; ac ni ddylesit ledu dy safn ar ddydd y cystudd.
13. Ni ddylesit ddyfod o fewn porth fy mhobl yn nydd eu haflwydd; ie, ni ddylesit edrych ar eu hadfyd yn nydd eu haflwydd; ac ni ddylesit estyn dy law ar eu golud yn nydd eu difethiad hwynt:
14. Ac ni ddylesit sefyll ar y croesffyrdd, i dorri ymaith y rhai a ddihangai ohono; ac ni ddylesit roi i fyny y gweddill ohono ar ddydd yr adfyd.