Obadeia 1:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Gweledigaeth Obadeia. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw am Edom; Clywsom sôn oddi wrth yr Arglwydd, a chennad a hebryngwyd ymysg y cenhedloedd; Codwch, a chyfodwn i ryfela yn ei herbyn hi.

2. Wele, mi a'th wneuthum yn fychan ymysg y cenhedloedd; dibris iawn wyt.

3. Balchder dy galon a'th dwyllodd: ti yr hwn wyt yn trigo yn holltau y graig, yn uchel ei drigfa; yr hwn a ddywed yn ei galon, Pwy a'm tyn i'r llawr?

Obadeia 1