Numeri 3:39-45 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

39. Holl rifedigion y Lefiaid, y rhai a rifodd Moses ac Aaron, yn ôl gair yr Arglwydd, trwy eu teuluoedd, sef pob gwryw o fab misyriad ac uchod, oedd ddwy fil ar hugain.

40. A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Cyfrif bob cyntaf‐anedig gwryw o feibion Israel, o fab misyriad ac uchod, a chymer rifedi eu henwau hwynt.

41. A chymer y Lefiaid i mi, (myfi yw yr Arglwydd,) yn lle holl gyntaf‐anedig meibion Israel, ac anifeiliaid y Lefiaid yn lle pob cyntaf‐anedig o anifeiliaid meibion Israel.

42. A Moses a rifodd, megis y gorchmynnodd yr Arglwydd iddo, bobcyntaf‐anedig o feibion Israel.

43. A'r rhai cyntaf‐anedig oll, o rai gwryw, dan rif eu henwau, o fab misyriad ac uchod, o'u rhifedigion hwynt, oedd ddwy fil ar hugain a dau cant a thri ar ddeg a thrigain.

44. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses gan ddywedyd,

45. Cymer y Lefiaid yn lle pob cyntaf‐anedig o feibion Israel, ac anifeiliaid y Lefiaid yn lle eu hanifeiliaid hwynt; a bydded y Lefiaid i mi: myfi yw yr Arglwydd.

Numeri 3