Numeri 3:11-30 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,

12. Ac wele, mi a gymerais y Lefiaid o blith meibion Israel, yn lle pob cyntaf‐anedig sef pob cyntaf a agoro'r groth o feibion Israel; am hynny y Lefiaid a fyddant eiddof fi:

13. Canys eiddof fi yw pob cyntaf‐anedig Ar y dydd y trewais y cyntaf‐anedig yn nhir yr Aifft, cysegrais i mi fy hun bob cyntaf‐anedig yn Israel o ddyn ac anifail: eiddof fi ydynt: myfi yw yr Arglwydd.

14. Yr Arglwydd hefyd a lefarodd wrth Moses yn anialwch Sinai, gan ddywedyd

15. Cyfrif feibion Lefi yn ôl tŷ eu tadau, trwy eu teuluoedd: cyfrif hwynt, bob gwryw, o fab misyriad ac uchod.

16. A Moses a'u cyfrifodd hwynt wrth air yr Arglwydd, fel y gorchmynasid iddo.

17. A'r rhai hyn oedd feibion Lefi wrth eu henwau; Gerson, a Cohath, a Merari.

18. A dyma enwau meibion Gerson, yn ôl eu teuluoedd; Libni a Simei.

19. A meibion Cohath, yn ôl eu teuluoedd Amram, Ishar, Hebron, ac Ussiel.

20. A meibion Merari, yn ôl eu teuluoedd Mahli a Musi. Dyma deuluoedd Lefi, wrth dŷ eu tadau.

21. O Gerson y daeth tylwyth y Libniaid, a thylwyth y Simiaid: dyma deuluoedd y Gersoniaid.

22. Eu rhifedigion hwynt, dan rif pob gwryw o fab misyriad ac uchod, eu rhifedigion, meddaf, oedd saith mil a phum cant.

23. Teuluoedd y Gersoniaid awersyllantar y tu ôl i'r tabernacl tua'r gorllewin.

24. A phennaeth tŷ tad y Gersoniaid fydd Eliasaff mab Lael.

25. A chadwraeth meibion Gerson, ym mhabell y cyfarfod, fydd y tabernacl, a'r babell, ei tho hefyd, a chaeadlen drws pabell y cyfarfod,

26. A llenni'r cynteddfa, a chaeadlen drws y cynteddfa, yr hwn sydd ynghylch y tabernacl, a'r allor o amgylch, a'i rhaffau i'w holl wasanaeth.

27. Ac o Cohath y daeth tylwyth yr Amramiaid, a thylwyth yr Ishariaid, a thylwyth yr Hebroniaid, a thylwyth yr Ussieliaid: dyma dylwyth y Cohathiaid.

28. Rhifedi yr holl wrywiaid, o fab misyriad ac uchod, oedd wyth mil a chwe chant, yn cadw cadwraeth y cysegr.

29. Teuluoedd meibion Cohath awersyllantar ystlys y tabernacl tua'r deau.

30. A phennaeth tŷ tad tylwyth y Cohathiaid fydd Elisaffan mab Ussiel.

Numeri 3